Ysgolion a Meithrinfeydd

Mae Street Tag yn eithriadol o ran dod â theuluoedd a chymunedau ynghyd trwy droi eich ardal leol yn faes chwarae rhithwir. Rydym yn annog staff ysgolion, plant, rhieni a gofalwyr i fod yn gorfforol egnïol trwy gerdded, rhedeg, beicio a rholio yn eu cadeiriau olwyn i ennill gwobrau.

Gan ddefnyddio'r ap Street Tag, gall defnyddwyr gofnodi eu pellter, eu camau, a'u pwyntiau a enillwyd o gasglu tagiau mewn gwahanol leoliadau, gan greu ymdeimlad o gystadleuaeth gyfeillgar er mwyn dringo i fyny safleoedd Bwrdd Arweinwyr yr Ysgol.

Gall timau gynnwys hyd at 250 o gyfranogwyr, gan gynnwys plant, rhieni, gofalwyr a staff, a fydd i gyd yn cystadlu gyda'i gilydd yn erbyn timau eraill ar y Bwrdd Arweinwyr am wobrau. Gallwch hefyd gael tîm ychwanegol o 250 o gyfranogwyr yn dibynnu ar faint y feithrinfa, yr ysgol, ac ati - rhowch wybod i ni pan fydd eich tîm yn cyrraedd 225 o gyfranogwyr a byddwn yn creu tîm newydd i chi.

SUT MAE'N GWEITHIO

Mae Street Tag wedi ymrwymo i ddod â'r gymuned ynghyd fel un. Byddwn yn defnyddio tagiau rhithwir, a rhai tagiau corfforol, i greu cystadleuaeth hwyliog, ddifyr a chyfeillgar o amgylch gweithgaredd corfforol.

  • Byddwn yn gosod tagiau rhithwir o amgylch meithrinfeydd, ysgolion, parciau, llyfrgelloedd a llwybrau teithio egnïol poblogaidd.

  • Mae defnyddwyr yn cerdded, rhedeg, beicio neu rolio i dagiau rhithwir, sy'n cael eu harddangos ar ryngwyneb yr ap.

  • Bydd defnyddwyr hefyd yn gallu creu eu tagiau rhithwir eu hunain yn eu hoff leoedd a'u llwybrau teithio dewisol.

  • Mae tagiau rhithwir yn werth 50 pwynt yr un ar gyfartaledd, ac mae tagiau gyda 'seren' arnynt yn werth pwyntiau bonws ychwanegol.

  • Unwaith y bydd cyfranogwyr o fewn radiws o 40 metr i dag, byddant yn derbyn y pwyntiau'n awtomatig a fydd yn helpu'r ysgol i symud i fyny'r Bwrdd Arweinwyr.

  • Ar ddiwedd pob Tymor Bwrdd Arweinwyr, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ac yn derbyn gwobrau bonws perfformiad.

  • Byddwn ni weithiau'n defnyddio codau PE a chodau QR, sef rhifynnau arbennig - mae cyfranogwyr yn defnyddio'r ap Street Tag i gasglu'r rhain.

  • Mae codau PE a chodau QR yn wobrau ychwanegol i ddefnyddwyr sy'n rhyngweithio'n uniongyrchol â llyfrgelloedd, parciau a chyfleusterau eraill.

  • Byddwn hefyd yn defnyddio'r rhain yn ystod heriau a digwyddiadau thema.

Ar hyn o bryd dim ond ysgolion sydd wedi'u lleoli yn y DU, yr UE a'r Unol Daleithiau yr ydym yn eu derbyn.

Drwy gofrestru isod, rydych chi'n mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o Fwrdd Arweinwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ysgolion Street Tag. Byddwch chi'n derbyn e-bost dilynol a Phecyn Croeso gyda pherson cyswllt i'ch cynorthwyo gyda'ch profiad cyfan gyda Street Tag.

Lawrlwythwch y llawlyfr cyfarwyddiadau ar gyfer y blynyddoedd cynnar, meithrinfeydd ac ysgolion yma

Os ydych chi'n athro/athrawes feithrin/ysgol, gweithiwr/aig neu gynorthwyydd, cwblhewch y ffurflen isod. Ysgrifennwch “D/A” lle nad yw'n berthnasol.

Cwblhewch y ffurflen isod